1 Macabeaid 1:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.

25. Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;

26. griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,llesgaodd genethod a llanciau,gwywodd tegwch y gwragedd.

27. Ymunodd pob priodfab yn y galar,ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.

28. Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.

29. Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref.

1 Macabeaid 1