1 Macabeaid 1:16-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Pan farnodd Antiochus fod ei deyrnas yn ddiogel, penderfynodd ddod yn frenin ar wlad yr Aifft, er mwyn bod yn frenin ar y ddwy deyrnas.

17. Ymosododd ar yr Aifft gyda byddin enfawr, yn cynnwys cerbydau rhyfel ac eliffantod a gwŷr meirch a llynges fawr, a dechrau rhyfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft.

18. Trodd Ptolemeus yn ôl oddi wrtho a ffoi, a lladdwyd llawer o'i filwyr.

19. Cymerwyd meddiant o'r trefi caerog yng ngwlad yr Aifft, ac ysbeiliodd Antiochus y wlad.

20. Wedi iddo oresgyn yr Aifft, yn y flwyddyn 143, dychwelodd Antiochus ac aeth i fyny yn erbyn Israel a mynd i Jerwsalem gyda byddin gref.

21. Yn ei ryfyg aeth i mewn i'r deml a dwyn ymaith yr allor aur, a'r ganhwyllbren gyda'i holl offer,

22. a bwrdd y bara cysegredig a'r cwpanau a'r cawgiau a'r thuserau aur a'r llen a'r coronau. Rhwygodd ymaith yr holl addurn aur oedd ar wyneb y deml.

23. Cymerodd hefyd yr arian a'r aur a'r llestri gwerthfawr, a hefyd y trysorau cuddiedig y daeth o hyd iddynt.

24. Gan gymryd y cyfan gydag ef, dychwelodd i'w wlad ei hun. Gwnaeth gyflafan fawr a llefarodd yn dra rhyfygus.

25. Bu galar mawr yn Israel ym mhobman;

26. griddfanodd llywodraethwyr a henuriaid,llesgaodd genethod a llanciau,gwywodd tegwch y gwragedd.

27. Ymunodd pob priodfab yn y galar,ac wylai'r briodferch yn yr ystafell briodas.

28. Crynodd y tir ei hun dros ei drigolion,a gwisgwyd holl dŷ Jacob â chywilydd.

29. Ar ôl dwy flynedd, anfonodd y brenin brif gasglwr trethi i drefi Jwda, a daeth ef i Jerwsalem gyda byddin gref.

1 Macabeaid 1