11. Yn y dyddiau hynny cododd yn Israel rai oedd wedi gwrthgilio oddi wrth y gyfraith, a chawsant berswâd ar lawer trwy ddweud, “Gadewch i ni fynd a gwneud cyfamod â'r Cenhedloedd sydd o'n hamgylch, oherwydd o'r amser y bu i ni ymwahanu oddi wrthynt, daeth llawer o drallodion ar ein gwarthaf.”
12. Yr oedd y cyngor hwn yn dderbyniol yng ngolwg y bobl, ac aeth rhai ohonynt yn eiddgar at y brenin.
13. Rhoddodd ef ganiatâd iddynt i ddilyn arferion y Cenhedloedd,
14. ac adeiladasant yn Jerwsalem gampfa chwaraeon yn null y Cenhedloedd.
15. Cuddiasant eu cyflwr enwaededig, a gwrthgilio oddi wrth y cyfamod sanctaidd; ymunasant â'r Cenhedloedd, a'u gwerthu eu hunain i wneud drygioni.
16. Pan farnodd Antiochus fod ei deyrnas yn ddiogel, penderfynodd ddod yn frenin ar wlad yr Aifft, er mwyn bod yn frenin ar y ddwy deyrnas.
17. Ymosododd ar yr Aifft gyda byddin enfawr, yn cynnwys cerbydau rhyfel ac eliffantod a gwŷr meirch a llynges fawr, a dechrau rhyfela yn erbyn Ptolemeus brenin yr Aifft.
18. Trodd Ptolemeus yn ôl oddi wrtho a ffoi, a lladdwyd llawer o'i filwyr.
19. Cymerwyd meddiant o'r trefi caerog yng ngwlad yr Aifft, ac ysbeiliodd Antiochus y wlad.
20. Wedi iddo oresgyn yr Aifft, yn y flwyddyn 143, dychwelodd Antiochus ac aeth i fyny yn erbyn Israel a mynd i Jerwsalem gyda byddin gref.
21. Yn ei ryfyg aeth i mewn i'r deml a dwyn ymaith yr allor aur, a'r ganhwyllbren gyda'i holl offer,