1. Ar ôl i Alexander y Macedoniad, mab Philip, ddod allan o wlad Chittim, a threchu Dareius brenin y Persiaid a'r Mediaid, teyrnasodd yn ei le; yr oedd eisoes yn frenin gwlad Groeg.
2. Ymladdodd frwydrau lawer, gan feddiannu ceyrydd a lladd brenhinoedd y ddaear.
3. Tramwyodd hyd eithafoedd y ddaear a chymryd ysbail oddi wrth lawer o genhedloedd. Ar ôl i'r byd dawelu dan ei lywodraeth, ymddyrchafodd ac aeth yn drahaus.
4. Casglodd fyddin eithriadol gref a llywodraethodd ar diroedd a chenhedloedd a thywysogion, a hwythau'n talu trethi iddo.
5. Ar ôl hyn trawyd ef yn glaf, a deallodd ei fod yn marw.
6. Felly galwodd ei gadfridogion, y rheini oedd wedi eu magu gydag ef o'i ieuenctid, a rhannodd ei deyrnas rhyngddynt tra oedd eto'n fyw.
7. Bu Alexander yn teyrnasu am ddeuddeng mlynedd cyn iddo farw.
8. Yna dechreuodd ei gadfridogion lywodraethu, pob un yn ei dalaith ei hun.