1 Ioan 5:4-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

4. am fod pawb sydd wedi eu geni o Dduw yn gorchfygu'r byd. Hon yw'r oruchafiaeth a orchfygodd y byd: ein ffydd ni.

5. Pwy yw gorchfygwr y byd ond y sawl sy'n credu mai Iesu yw Mab Duw?

6. Dyma'r un a ddaeth drwy ddŵr a gwaed, Iesu Grist; nid trwy ddŵr yn unig, ond trwy'r dŵr a thrwy'r gwaed. Yr Ysbryd yw'r tyst, am mai'r Ysbryd yw'r gwirionedd.

7. Oherwydd y mae tri sy'n tystiolaethu,

8. yr Ysbryd, y dŵr, a'r gwaed, ac y mae'r tri yn gytûn.

1 Ioan 5