1 Ioan 3:20-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. pryd bynnag y bydd ein calon yn ein condemnio; oherwydd y mae Duw yn fwy na'n calon, ac y mae'n gwybod pob peth.

21. Gyfeillion annwyl, os nad yw'n calon yn ein condemnio, y mae gennym hyder gerbron Duw,

22. ac yr ydym yn derbyn ganddo ef bob dim yr ydym yn gofyn amdano, am ein bod yn cadw ei orchmynion ac yn gwneud y pethau sydd wrth ei fodd.

23. Dyma ei orchymyn: ein bod i gredu yn enw ei Fab ef, Iesu Grist, a charu'n gilydd, yn union fel y rhoddodd ef orchymyn inni.

24. Y mae'r sawl sy'n cadw ei orchmynion ef yn aros ynddo ef, ac ef ynddo yntau. Dyma sut yr ydym yn gwybod ei fod ef yn aros ynom ni: trwy'r Ysbryd a roddodd ef inni.

1 Ioan 3