1 Esdras 9:38-47 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

38. ymgasglodd yr holl gynulleidfa fel un gŵr ar y sgwâr o flaen porth dwyreiniol y deml,

39. a galw ar Esra yr archoffeiriad a'r darllenydd i ddod â chyfraith Moses, a roddwyd gan Arglwydd Dduw Israel.

40. Ar y dydd cyntaf o'r seithfed mis daeth Esra'r archoffeiriad â'r gyfraith o flaen yr holl gynulleidfa, yn wŷr a gwragedd, a'r holl offeiriaid, iddynt ei chlywed.

41. Darllenodd ohoni ar y sgwâr o flaen porth y deml o doriad gwawr hyd hanner dydd yng ngŵydd y gwŷr a'r gwragedd, a gwrandawodd yr holl gynulleidfa'n astud ar y gyfraith.

42. Yr oedd Esra, yr offeiriad a darllenydd y gyfraith, ar lwyfan pren wedi ei ddarparu i'r diben.

43. Ar yr ochr dde iddo yr oedd Mattathias, Sammus, Ananias, Asarias, Wrias, Esecias a Baalsamus,

44. ac ar y chwith Phadaius, Misael, Melchias, Lothaswbus, Nabarias a Sacharias.

45. Cymerodd Esra lyfr y gyfraith yng ngolwg y gynulleidfa, oherwydd yr oedd yn eistedd yn y lle amlycaf o'u blaen i gyd,

46. a phan agorodd y gyfraith, safodd pawb ar eu traed. Bendithiodd Esra'r Arglwydd Dduw Goruchaf, Duw y lluoedd, yr Hollalluog,

47. a gwaeddodd yr holl gynulleidfa, “Amen”, gan godi eu dwylo a syrthio i'r llawr ac addoli'r Arglwydd.

1 Esdras 9