1 Esdras 8:93-96 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

93. Gadewch i ni dyngu llw i'r Arglwydd, i fwrw allan yr holl wragedd estron sydd yn ein plith, a'u plant,

94. yn unol â'th ddedfryd di a phawb sy'n ufudd i gyfraith yr Arglwydd.

95. Cod a gweithreda, oherwydd dy gyfrifoldeb di yw hyn, ond fe fyddwn ni gyda thi i'th gefnogi.”

96. Yna cododd Esra a pheri i arweinwyr offeiriaid a Lefiaid holl Israel dyngu llw i'r perwyl hwn; a thyngu a wnaethant.

1 Esdras 8