1 Esdras 8:73-76 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

73. Yna codais o'm hympryd, a'm dillad a'm mantell sanctaidd amdanaf wedi eu rhwygo, a phenliniais a lledu fy nwylo o flaen yr Arglwydd

74. a dweud, ‘O Arglwydd, yr wyf mewn gwaradwydd a chywilydd ger dy fron,

75. oherwydd pentyrrodd ein pechodau yn uwch na'n pennau a chododd ein cyfeiliornadau hyd y nefoedd.

76. Felly y bu o ddyddiau ein hynafiaid, ac yr ydym yn dal mewn pechod mawr hyd y dydd hwn.

1 Esdras 8