1 Esdras 8:11-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. Cynifer felly ag sy'n awyddus i fynd, cânt gychwyn gyda chwi, fel y penderfynais i a'm saith Cyfaill, fy nghynghorwyr,

12. i wneud arolwg o gyflwr Jwda a Jerwsalem yn unol â'r hyn sydd yng nghyfraith yr Arglwydd,

13. ac i gludo i Jerwsalem i Arglwydd Israel y rhoddion a addunedais i a'm cyfeillion, ac i ddwyn yr holl aur ac arian y gellir eu darganfod yng ngwlad Babilon, ynghyd â'r hyn a gyfrannwyd gan y genedl at deml eu Harglwydd yn Jerwsalem.

14. Gwarier yr aur a'r arian ar deirw, hyrddod ac ŵyn, a phethau cysylltiedig â hwy,

15. er mwyn offrymu aberthau ar allor yr Arglwydd yn Jerwsalem.

16. Beth bynnag y byddi di a'th deulu yn dymuno'i wneud â'r aur a'r arian, gwna hynny yn ôl ewyllys dy Dduw,

1 Esdras 8