1 Esdras 7:7-15 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

7. Wrth gysegru teml yr Arglwydd offrymasant gant o deirw, dau gant o hyrddod, pedwar cant o ŵyn,

8. a deuddeg gafr, yn ôl nifer penaethiaid llwythau Israel, yn bechaberth dros holl Israel.

9. Safodd yr offeiriaid a'r Lefiaid yn eu gwisgoedd fesul teulu i oruchwylio gwasanaethau Arglwydd Dduw Israel yn unol â llyfr Moses, tra safai'r porthorion wrth bob porth.

10. Felly cadwodd yr Israeliaid a ddaeth o'r gaethglud y Pasg ar y pedwerydd dydd ar ddeg o'r mis cyntaf. Cafodd yr offeiriaid eu puro, a'r Lefiaid gyda hwy.

11. Er na phurwyd y caethgludion i gyd, am fod pob un o'r Lefiaid wedi ei buro,

12. lladdasant oen y Pasg ar gyfer pawb a ddaeth o'r gaethglud, a'u brodyr yr offeiriaid, a hwy eu hunain.

13. Fe'i bwytawyd gan yr Israeliaid a ddychwelodd o'r gaethglud, gan bawb oedd wedi ymwahanu oddi wrth aflendid pobloedd y wlad, er mwyn ceisio'r Arglwydd.

14. Cadwyd gŵyl y Bara Croyw mewn llawenydd o flaen yr Arglwydd am saith diwrnod,

15. oherwydd iddo ddarbwyllo brenin Asyria i'w cynorthwyo yng ngwaith Arglwydd Dduw Israel.

1 Esdras 7