1 Esdras 7:1-5 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Yna dilynodd Sisinnes, llywodraethwr Celo-Syria a Phenice, a Sathrabwsanes a'u cefnogwyr gyfarwyddiadau'r Brenin Dareius,

2. a goruchwylio'r gwaith cysegredig yn fanwl gan gydweithredu â henuriaid yr Iddewon a swyddogion y deml.

3. Llwyddodd y gwaith cysegredig trwy gymorth proffwydoliaeth Haggai a Sechareia y proffwydi.

4. Ac felly, trwy orchymyn Arglwydd Dduw Israel, ac â chydsyniad Cyrus a Dareius ac Artaxerxes brenin Persia, daeth y gwaith i ben

5. a gorffennwyd y tŷ sanctaidd erbyn y trydydd dydd ar hugain o fis Adar, yn y chweched flwyddyn o deyrnasiad Dareius.

1 Esdras 7