1 Esdras 6:8-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

8. Bydded hyn oll yn hysbys i'n harglwydd y brenin: inni ymweld â thalaith Jwda a mynd i mewn i ddinas Jerwsalem; yno cawsom henuriaid yr Iddewon, a ddychwelodd o'r gaethglud,

9. yn adeiladu yn ninas Jerwsalem dŷ mawr newydd i'r Arglwydd o gerrig nadd drud, gyda choed wedi eu gosod yn y muriau;

10. y mae'r gwaith yn mynd rhagddo'n gyflym a'r adeiladu'n llwyddo dan eu llaw, ac fe'i cwblheir â phob ysblander a gofal.

1 Esdras 6