1 Esdras 6:30-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

30. ac yn yr un modd wenith, halen, gwin ac olew yn gyson bob blwyddyn ac yn ddirwgnach yn ôl amcangyfrifon yr offeiriaid yn Jerwsalem o'n gwariant beunyddiol,

31. er mwyn offrymu diodoffrymau i'r Duw Goruchaf ar ran y brenin a'i blant, a gweddïo dros eu bywyd.”

32. Gorchmynnodd hefyd, os byddai i unrhyw un dorri neu ddiystyru unrhyw orchymyn a draethwyd neu a ysgrifennwyd yma, fod trawst i'w dynnu o'i dŷ, a'i fod yntau i'w grogi arno, a bod ei eiddo i fynd i'r brenin.

33. “A bydded i'r Arglwydd,” meddai, “sydd wedi gosod ei enw yno, ddymchwel pob brenin a chenedl sy'n estyn llaw i beri rhwystr neu niwed i'r tŷ hwn o eiddo'r Arglwydd yn Jerwsalem.

34. Yr wyf fi, y Brenin Dareius, wedi rhoi'r gorchymyn mai fel hyn yn fanwl y mae i fod.”

1 Esdras 6