17. Ym mlwyddyn gyntaf teyrnasiad Cyrus dros wlad Babilonia, rhoes y Brenin Cyrus gennad i adeiladu'r tŷ hwn.
18. Y llestri aur ac arian a ddygodd Nebuchadnesar o'r tŷ yn Jerwsalem a'u rhoi yn ei deml ei hun, cymerodd y Brenin Cyrus hwy drachefn o'r deml ym Mabilon a'u trosglwyddo i Sorobabel a Sanabassar y llywodraethwr.
19. Gorchmynnodd iddo gymryd yr holl lestri yma a'u gosod yn y deml yn Jerwsalem, ac adeiladu'r deml hon o eiddo'r Arglwydd ar ei hen safle.
20. Yna daeth y Sanabassar hwn a gosod sylfeini tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem; a bu adeiladu o'r amser hwnnw hyd yn awr, ond nid yw wedi ei orffen.’
21. Felly, os dyna d'ewyllys, O frenin, chwilier yn archifau brenhinol ein harglwydd y brenin ym Mabilon,
22. ac os ceir bod tŷ'r Arglwydd yn Jerwsalem wedi ei adeiladu â chydsyniad y Brenin Cyrus, ac os dyna ewyllys ein harglwydd y brenin, anfoner ei ddyfarniad ar y mater i ni.”