1 Esdras 5:58-71 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

58. Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.

59. Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,

60. i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.

61. Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.

62. Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.

63. Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,

64. a daeth eraill lawer â'u hutgyrn a seinio'u llawenydd â sŵn mawr;

65. ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.

66. Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.

67. Wedi darganfod fod y rhai a ddychwelodd o'r gaethglud yn adeiladu'r deml i Arglwydd Dduw Israel,

68. daethant at Sorobabel a Jesua a'r pennau-teuluoedd a dweud wrthynt: “Gadewch i ni adeiladu gyda chwi,

69. oherwydd yr ydym ni'n ufuddhau i'r Arglwydd fel chwithau, ac iddo ef hefyd yr ydym wedi aberthu er amser Asbasareth brenin Asyria, a ddaeth â ni yma.”

70. Ond dywedodd Sorobabel a Jesua a phennau-teuluoedd Israel wrthynt: “Nid oes a wneloch chwi ddim â ni i adeiladu tŷ i'r Arglwydd ein Duw;

71. ni yn unig sydd i adeiladu i Arglwydd Israel, fel y gorchmynnodd Cyrus brenin Persia i ni.”

1 Esdras 5