48. Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel
49. er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.
50. Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.
51. Cadwasant ŵyl y Pebyll fel y gorchmynnwyd yn y gyfraith, ac offrymu'r aberthau dyddiol fel yr oedd yn briodol,
52. ac ar ôl hyn yr aberthau cyson a'r rhai ar gyfer y sabothau a'r newydd-loerau a'r holl wyliau cysegredig.
53. Dechreuodd pob un a wnaethai lw i Dduw offrymu aberthau iddo o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd teml Duw wedi ei hadeiladu eto.
54. Yna rhoesant arian i'r seiri meini a'r seiri coed, a bwyd a diod
55. a cherti i'r Sidoniaid a'r Tyriaid, i gyrchu cedrwydd o Libanus a dod â hwy ar wyneb y dŵr i borthladd Jopa yn unol â'r cennad a roddwyd iddynt gan Cyrus brenin Persia.
56. Yn ail fis yr ail flwyddyn wedi iddo ddychwelyd i deml Duw yn Jerwsalem, dechreuodd Sorobabel fab Salathiel ar y gwaith, ynghyd â Jesua fab Josedec a'u brodyr a'r offeiriaid Lefitaidd a phawb oedd wedi dychwelyd o'r gaethglud i Jerwsalem.
57. Gosodasant sylfaen teml Duw ar ddydd cyntaf yr ail fis o'r ail flwyddyn wedi iddynt gyrraedd Jwdea a Jerwsalem.
58. Penodwyd y Lefiaid oedd dros ugain mlwydd oed i arolygu gwaith yr Arglwydd, ac fel un gŵr cododd Jesua a'i feibion a'i frodyr, Cadmiel ei frawd, meibion Jesua Emadabun a meibion Joda fab Iliadun ynghyd â'i feibion a'i frodyr, yr holl Lefiaid, a gyrru ymlaen â'r gwaith ar dŷ Dduw. Felly y cododd yr adeiladwyr deml yr Arglwydd.
59. Safodd yr offeiriaid yn eu gwisgoedd gydag offerynnau cerdd ac utgyrn, a'r Lefiaid, meibion Asaff, gyda symbalau,
60. i foliannu'r Arglwydd a'i fendithio yn ôl gorchymyn Dafydd brenin Israel.
61. Canasant emynau'n moliannu'r Arglwydd am fod ei ddaioni a'i ogoniant yn dragwyddol ar holl Israel.
62. Yna seiniodd yr holl bobl utgyrn, a bloeddio'n uchel mewn moliant i'r Arglwydd wrth i dŷ'r Arglwydd godi.
63. Daeth rhai o'r offeiriaid Lefitaidd a'r pennau-teuluoedd, a oedd yn ddigon hen i fod wedi gweld y tŷ cyntaf, at y gwaith adeiladu hwn â llefain ac wylofain mawr,
64. a daeth eraill lawer â'u hutgyrn a seinio'u llawenydd â sŵn mawr;
65. ond ni allai'r bobl glywed yr utgyrn oherwydd sŵn y bobl yn wylo, er bod y dyrfa'n seinio'r utgyrn mor uchel nes bod y sŵn i'w glywed o bell.
66. Pan glywodd gelynion llwyth Jwda a Benjamin, daethant i weld beth oedd ystyr sŵn yr utgyrn.