1 Esdras 5:46-53 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.

47. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.

48. Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel

49. er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.

50. Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.

51. Cadwasant ŵyl y Pebyll fel y gorchmynnwyd yn y gyfraith, ac offrymu'r aberthau dyddiol fel yr oedd yn briodol,

52. ac ar ôl hyn yr aberthau cyson a'r rhai ar gyfer y sabothau a'r newydd-loerau a'r holl wyliau cysegredig.

53. Dechreuodd pob un a wnaethai lw i Dduw offrymu aberthau iddo o ddydd cyntaf y seithfed mis, er nad oedd teml Duw wedi ei hadeiladu eto.

1 Esdras 5