1 Esdras 5:42-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

42. eu gweision a'u morynion yn saith mil tri chant tri deg a saith; a'r cantorion a'r cantoresau yn ddau gant pedwar deg a phump.

43. Yr oedd ganddynt bedwar cant tri deg a phump o gamelod, saith mil tri deg a chwech o geffylau, dau gant pedwar deg a phump a fulod, a phum mil pum cant dau ddeg a phump o asynnod.

44. Pan ddaethant i deml Duw yn Jerwsalem, ymrwymodd rhai o'r pennau-teuluoedd i godi'r tŷ ar ei hen sylfaen yn ôl eu gallu,

45. ac i roi i drysorfa'r deml ar gyfer y gwaith fil mina o aur a phum mil mina o arian a chant o wisgoedd offeiriadol.

46. Cartrefodd yr offeiriaid a'r Lefiaid a rhai o'r bobl yn Jerwsalem a'r cyffiniau, a'r cantorion, y porthorion a holl Israel yn eu trefi.

47. Pan ddaeth y seithfed mis, a'r Israeliaid erbyn hyn yn eu cartrefi, ymgasglasant fel un gŵr i'r sgwâr o flaen y porth cyntaf yn wynebu'r dwyrain.

48. Yna cododd Jesua fab Josedec a'i gyd-offeiriaid, a Sorobabel fab Salathiel a'i deulu, a pharatoi allor Duw Israel

49. er mwyn aberthu poethoffrymau arni, fel y mae'n ysgrifenedig yng nghyfraith Moses, gŵr Duw.

50. Ymunodd rhai o bobloedd eraill y wlad â hwy. Codasant yr allor yn ei lle, er bod pobloedd y wlad yn gyffredinol yn elyniaethus iddynt ac yn gryfach na hwy, ac offrymasant aberthau yn eu priod amser a phoethoffrymau i'r Arglwydd fore a hwyr.

51. Cadwasant ŵyl y Pebyll fel y gorchmynnwyd yn y gyfraith, ac offrymu'r aberthau dyddiol fel yr oedd yn briodol,

1 Esdras 5