1 Esdras 5:32-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

32. Moeda, Cwtha, Charea, Barchus, Serar, Thomi, Nasi, ac Atiffa.

33. Disgynyddion gweision Solomon: teuluoedd Asaffioth, Pharida, Jeeli, Loson, Isdael, Saffuthi,

34. Agia, Phacareth o Sabie, Sarothie, Masias, Gas, Adus, Swbas, Afferra, Barodis, Saffat, Amon.

35. Cyfanswm gweision y deml a disgynyddion gweision Solomon oedd tri chant saith deg a dau.

36. Daeth y rhai canlynol i fyny o Thermeleth a Thelersa dan arweiniad Charaath, Adan ac Amar,

37. ond ni fedrent brofi mai o Israel yr oedd eu llinach a'u tras: teuluoedd Dalan fab Twba, a Necodan, chwe chant pum deg a dau.

1 Esdras 5