1 Esdras 5:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yr offeiriaid: teulu Jedu fab Jesua o linach Anasib, naw cant saith deg a dau; teulu Emmerus, mil pum deg a dau;

25. teulu Phasswrus, mil dau gant pedwar deg a saith; teulu Charme, mil un deg a saith.

26. Y Lefiaid: teuluoedd Jesua, Cadmielus, Bannus a Sudius, saith deg a phedwar.

27. Cantorion y deml: teulu Asaff, cant dau ddeg ac wyth.

1 Esdras 5