1. Wedi'r pethau hyn dewiswyd y pennau-teuluoedd, bob yn llwyth, i fynd i fyny ynghyd â'u gwragedd, eu meibion a'u merched, eu caethweision yn wryw ac yn fenyw, a'u hanifeiliaid.
2. Anfonodd Dareius gyda hwy fil o farchogion i'w dwyn yn ôl i Jerwsalem yn ddiogel i gyfeiliant drymiau a phibau,
3. a'u holl gyd-Iddewon yn dawnsio. Felly y parodd iddynt fynd i fyny gyda'r osgordd hon.
4. Dyma enwau'r dynion a aeth i fyny yn ôl eu teuluoedd a'u llwythau yn eu trefn:
5. yr offeiriaid, meibion Phinees fab Aaron; Jesua fab Josedec, fab Saraias, a Joacim fab Sorobabel, fab Salathiel, o dŷ Dafydd o linach Phares o lwyth Jwda,
6. a lefarodd eiriau doeth gerbron Dareius brenin y Persiaid yn ail flwyddyn ei frenhiniaeth, yn y mis Nisan, y mis cyntaf.
7. Dyma'r rhai o Jwda a ddaeth i fyny o gaethiwed y gaethglud—y rhai a gludodd Nebuchadnesar brenin Babilon i Fabilon—
8. ac a ddychwelodd i Jerwsalem a gweddill Jwda, pob un i'w dref ei hun. Daethant gyda Sorobabel a Jesua, Nehemeia, Saraias, Resaias, Enenius, Mardochaius, Beelsarus, Asffarasus, Borolius, Roimus, a Baana, eu harweinwyr.
9. Dyma nifer aelodau'r genedl, ac enwau eu harweinwyr: teulu Phorus, dwy fil un cant saith deg a dau; teulu Saffat, pedwar cant saith deg a dau;
10. teulu Ares, saith gant pum deg a chwech;
11. teulu Phaath-Moab, hynny yw teuluoedd Jesua a Joab, dwy fil wyth gant a deuddeg;
12. teulu Elam, mil dau gant pum deg a phedwar; teulu Satus, naw cant pedwar deg a phump; teulu Chorbe, saith gant a phump; teulu Bani, chwe chant pedwar deg ac wyth;
13. teulu Bebai, chwe chant dau ddeg a thri; teulu Asgad, mil tri chant dau ddeg a dau;
14. teulu Adonicam, chwe chant chwe deg a saith; teulu Bagoi, dwy fil chwe deg a chwech; teulu Adinus, pedwar cant pum deg a phedwar;