6. Yn yr un modd y mae'r arddwyr, nad ydynt na milwyr na rhyfelwyr, yn trin y tir, ac at y brenin y dygant y cynnyrch wedi iddynt hau a medi. Mae pawb yn cymell ei gilydd i dalu trethi i'r brenin.
7. Ac eto, un yn unig yw ef. Os yw'n gorchymyn iddynt ladd, lladdant; os rhyddhau, rhyddhânt;
8. os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;
9. os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.
10. Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,
11. tra maent hwy'n gwylio o'i gwmpas. Ni chaiff un fynd i ymhél â'i orchwylion ei hun; nid ydynt yn anufuddhau iddo.
12. Foneddigion, rhaid mai'r brenin sydd gryfaf, gan ei fod yn derbyn y fath ufudd-dod.” A thawodd.
13. Yna dechreuodd y trydydd lefaru; Sorobabel oedd hwn, yr un a soniai am wragedd ac am wirionedd.
14. “Foneddigion,” meddai, “a yw'r brenin yn fawr, dynion yn niferus, a gwin yn gryf? Ydynt, ond pwy sy'n feistr ac yn arglwydd arnynt? Onid gwragedd?
15. Gwragedd a esgorodd ar y brenin a'i holl bobl, y rhai sy'n llywodraethu môr a thir.
16. O wragedd y daethant. Hwy hefyd a fagodd y rhai sy'n plannu'r gwinllannoedd y daw'r gwin ohonynt.
17. Hwy sy'n gwneud dillad i ddynion ac yn ennill clod iddynt; ni all dynion wneud heb wragedd.
18. Os yw dyn yn casglu aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth, ac yna'n canfod un wraig sy'n deg ei phryd a'i gwedd,
19. y mae'n gadael hynny i gyd er mwyn ei llygadu a syllu'n geg-agored arni. Byddai pob dyn yn ei dewis hi yn hytrach nag aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth.
20. Mae dyn yn gadael ei dad, a'i magodd, a hyd yn oed ei wlad ei hun, er mwyn glynu wrth ei wraig.
21. Gyda hi y treulia'i oes, gan anghofio tad a mam a gwlad.
22. Rhaid felly ichwi ddeall mai gwragedd sydd yn eich rheoli. Onid er mwyn rhoi a chludo popeth i'ch gwragedd yr ydych yn llafurio ac yn chwysu?