1 Esdras 4:6-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Yn yr un modd y mae'r arddwyr, nad ydynt na milwyr na rhyfelwyr, yn trin y tir, ac at y brenin y dygant y cynnyrch wedi iddynt hau a medi. Mae pawb yn cymell ei gilydd i dalu trethi i'r brenin.

7. Ac eto, un yn unig yw ef. Os yw'n gorchymyn iddynt ladd, lladdant; os rhyddhau, rhyddhânt;

8. os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;

9. os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.

10. Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,

1 Esdras 4