1 Esdras 4:48-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

48. Hefyd ysgrifennodd lythyrau at yr holl swyddogion yn Celo-Syria a Phenice ac i'r rhai yn Libanus, yn gorchymyn iddynt gludo coed cedrwydd o Libanus i Jerwsalem, ac felly ei gynorthwyo i adeiladu'r ddinas.

49. Ysgrifennodd ar ran yr holl Iddewon a fyddai'n dod i fyny o'i deyrnas i Jwdea i'w sicrhau o'u rhyddid; ni fyddai'r un llywodraethwr, pennaeth, swyddog na thrysorydd yn torri i mewn drwy eu pyrth;

50. byddai'r holl wlad a feddiennid ganddynt yn ddi-dreth; byddai'r Edomiaid yn ildio pentrefi'r Iddewon a feddiannwyd ganddynt hwy;

51. byddai cyfraniad o ugain talent bob blwyddyn tuag at adeiladu'r deml nes i'r gwaith gael ei orffen,

52. a deg talent yn ychwanegol bob blwyddyn tuag at y poethoffrymau a offrymid yn ddyddiol ar yr allor yn unol â'r gorchymyn i offrymu un deg a saith;

53. câi pawb a ddôi o Fabilon i adeiladu'r ddinas ryddid iddynt eu hunain ac i'w plant yn ogystal ag i'r holl offeiriaid a fyddai'n dod.

54. Ysgrifennodd hefyd ynglŷn â'u treuliau, a'r gwisgoedd offeiriadol yr oeddent i'w defnyddio.

55. Gorchmynnodd roi eu treuliau i'r Lefiaid hyd nes cwblhau'r deml ac adeiladu Jerwsalem,

56. a rhoi tiroedd a chyflog i holl warchodwyr y ddinas.

57. Anfonodd yn ôl o Fabilon yr holl lestri a osododd Cyrus o'r neilltu; gorchmynnodd gyflawni holl orchmynion Cyrus ac anfon popeth yn ôl i Jerwsalem.

58. Pan aeth y llanc allan, dyrchafodd ei olwg tua'r nef, gan wynebu Jerwsalem a chanmol Brenin Nef fel hyn:

59. “Oddi wrthyt ti y daw buddugoliaeth, oddi wrthyt ti y daw doethineb, a thi biau'r gogoniant. Dy was di wyf fi.

60. Bendigedig wyt ti, a roddaist i mi ddoethineb. Clodforaf di, Arglwydd ein hynafiaid.”

61. Cymerodd y llythyrau, ac aeth i Fabilon a chyhoeddi hyn i'w gyd-Iddewon i gyd.

62. Canmolasant Dduw eu hynafiaid am iddo roi iddynt ryddid a chaniatâd

63. i fynd i fyny i adeiladu Jerwsalem a'r deml yr oedd ei enw ef arni. A buont yn dathlu am saith diwrnod â cherddoriaeth a llawenydd.

1 Esdras 4