1 Esdras 4:41-45 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Tawodd â sôn, a gwaeddodd yr holl bobl: “Mawr yw'r gwirionedd. Y mae'n gryfach na dim.”

42. Dywedodd y brenin wrtho: “Gofyn am yr hyn a ddymunit, hyd yn oed y tu hwnt i'r hyn a ysgrifennwyd, ac fe'i rhoddwn i ti, gan mai ti a gafwyd yn ddoethaf. Cei eistedd yn nesaf ataf a dwyn yr enw, ‘Câr i mi’.”

43. Dywedodd yntau wrth y brenin: “Cofia'r adduned a wnaethost, ar y dydd y derbyniaist y frenhiniaeth, i adeiladu Jerwsalem,

44. a chymryd ac anfon yn ôl yno yr holl lestri a ddygwyd o Jerwsalem ac a osododd Cyrus o'r neilltu. Pan addunedodd ef ddinistrio Babilon, addunedodd hefyd anfon y llestri yn ôl yno.

45. Addunedaist tithau hefyd adeiladu'r deml a losgodd yr Edomiaid pan ddifrodwyd Jwdea gan y Chaldeaid.

1 Esdras 4