1 Esdras 4:3-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. A'r brenin yw'r cryfaf, oherwydd y mae'n arglwydd ac yn feistr ar bawb; ufuddhânt i bopeth y mae'n ei orchymyn iddynt.

4. Os yw'n gorchymyn iddynt ryfela yn erbyn ei gilydd, gwnânt hynny. Os yw'n eu hanfon allan yn erbyn ei elynion, fe ânt a dymchwel mynyddoedd, muriau a thyrau.

5. Er iddynt ladd a chael eu lladd, nid anufuddhânt i orchymyn y brenin. Os enillant fuddugoliaeth, i'r brenin y dygant bopeth, yr holl ysbail a phob dim arall.

6. Yn yr un modd y mae'r arddwyr, nad ydynt na milwyr na rhyfelwyr, yn trin y tir, ac at y brenin y dygant y cynnyrch wedi iddynt hau a medi. Mae pawb yn cymell ei gilydd i dalu trethi i'r brenin.

7. Ac eto, un yn unig yw ef. Os yw'n gorchymyn iddynt ladd, lladdant; os rhyddhau, rhyddhânt;

8. os taro, trawant; os difrodi, difrodant; os adeiladu, adeiladant;

9. os torri i lawr, torrant i lawr; os plannu, plannant.

10. Y mae ei holl bobl a'i luoedd yn ufuddhau iddo. At hyn oll, y mae'n cael eistedd i fwyta ac yfed, a syrthio i gysgu,

11. tra maent hwy'n gwylio o'i gwmpas. Ni chaiff un fynd i ymhél â'i orchwylion ei hun; nid ydynt yn anufuddhau iddo.

12. Foneddigion, rhaid mai'r brenin sydd gryfaf, gan ei fod yn derbyn y fath ufudd-dod.” A thawodd.

13. Yna dechreuodd y trydydd lefaru; Sorobabel oedd hwn, yr un a soniai am wragedd ac am wirionedd.

14. “Foneddigion,” meddai, “a yw'r brenin yn fawr, dynion yn niferus, a gwin yn gryf? Ydynt, ond pwy sy'n feistr ac yn arglwydd arnynt? Onid gwragedd?

15. Gwragedd a esgorodd ar y brenin a'i holl bobl, y rhai sy'n llywodraethu môr a thir.

16. O wragedd y daethant. Hwy hefyd a fagodd y rhai sy'n plannu'r gwinllannoedd y daw'r gwin ohonynt.

17. Hwy sy'n gwneud dillad i ddynion ac yn ennill clod iddynt; ni all dynion wneud heb wragedd.

18. Os yw dyn yn casglu aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth, ac yna'n canfod un wraig sy'n deg ei phryd a'i gwedd,

19. y mae'n gadael hynny i gyd er mwyn ei llygadu a syllu'n geg-agored arni. Byddai pob dyn yn ei dewis hi yn hytrach nag aur ac arian a phopeth arall sy'n brydferth.

1 Esdras 4