5. “Gadewch i bob un ohonom enwi un peth, y peth cryfaf, ac fe rydd y Brenin Dareius roddion gwerthfawr a gwobrau gwych i'r sawl y bydd ei ddywediad yn ymddangos yn ddoethach na'r lleill.
6. Fe'i gwisgir mewn porffor, caiff yfed allan o lestri aur, cysgu ar wely aur, cael cerbyd â ffrwynau aur, penwisg o liain main, a chadwyn am ei wddf.
7. Caiff eistedd yn nesaf at Dareius oherwydd ei ddoethineb, a dwyn yr enw, ‘Câr Dareius’.”
8. Yna ysgrifennodd pob un ei ateb ei hun, ei selio a'i osod o dan obennydd y Brenin Dareius,
9. gan ddweud, “Pan fydd y brenin yn deffro, rhoddir iddo yr hyn a ysgrifennwyd. I'r un y bydd y brenin a thri arweinydd Persia yn barnu mai ei ateb yw'r doethaf y rhoddir y fuddugoliaeth yn ôl yr hyn a ysgrifennwyd.”
10. Ysgrifennodd y cyntaf, “Gwin sydd gryfaf.”
11. Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”
12. Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”
13. Pan ddeffrôdd y brenin, cymerasant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.