1 Esdras 3:18-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. drwy ddweud, “Foneddigion, ym mha ffordd y mae gwin gryfaf? Mae'n drysu meddwl pob un sy'n ei yfed.

19. Mae'n effeithio ar feddwl y brenin a'r amddifad, y caeth a'r rhydd, y tlawd a'r cyfoethog, yn yr un ffordd.

20. Mae'n troi pob meddwl at gyfeddach a llawenydd, nes anghofio pob tristwch a phob dyled.

21. Gwna i bawb ymddwyn fel cyfoethogion, heb falio am na brenin na phennaeth, ond siarad am bopeth fel petai'n filiwnydd.

22. Wrth yfed, nid ydynt yn malio am gyfeillachu â ffrindiau a theulu, a chyn bo hir tynnant eu cleddyfau.

23. Wedi sobri, nid ydynt yn cofio beth a wnaethant.

24. Foneddigion, onid gwin sydd gryfaf, gan ei fod yn gorfodi pobl i ymddwyn fel hyn?” Tawodd ar ôl dweud hyn.

1 Esdras 3