10. Ysgrifennodd y cyntaf, “Gwin sydd gryfaf.”
11. Ysgrifennodd yr ail, “Y brenin sydd gryfaf.”
12. Ysgrifennodd y trydydd, “Gwragedd sydd gryfaf, ond y mae gwirionedd yn drech na phopeth.”
13. Pan ddeffrôdd y brenin, cymerasant yr hyn a ysgrifennwyd a'i roi iddo, ac fe'i darllenodd.
14. Yna anfonodd a galw ynghyd holl arweinwyr Persia a Media, y penaethiaid, y cadfridogion, y swyddogion a'r is-swyddogion.
15. Eisteddodd yn ystafell y cyngor, a darllenwyd yr hyn a ysgrifennwyd yng ngŵydd pawb.
16. Yna dywedodd, “Galwch y llanciau er mwyn iddynt gael egluro'u hatebion.” Fe'u galwyd i mewn,
17. a dywedwyd wrthynt, “Eglurwch inni'r hyn a ysgrifennwyd gennych.”Dechreuodd y cyntaf, yr un a soniai am gryfder gwin,
18. drwy ddweud, “Foneddigion, ym mha ffordd y mae gwin gryfaf? Mae'n drysu meddwl pob un sy'n ei yfed.
19. Mae'n effeithio ar feddwl y brenin a'r amddifad, y caeth a'r rhydd, y tlawd a'r cyfoethog, yn yr un ffordd.
20. Mae'n troi pob meddwl at gyfeddach a llawenydd, nes anghofio pob tristwch a phob dyled.
21. Gwna i bawb ymddwyn fel cyfoethogion, heb falio am na brenin na phennaeth, ond siarad am bopeth fel petai'n filiwnydd.
22. Wrth yfed, nid ydynt yn malio am gyfeillachu â ffrindiau a theulu, a chyn bo hir tynnant eu cleddyfau.
23. Wedi sobri, nid ydynt yn cofio beth a wnaethant.
24. Foneddigion, onid gwin sydd gryfaf, gan ei fod yn gorfodi pobl i ymddwyn fel hyn?” Tawodd ar ôl dweud hyn.