1 Esdras 3:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Gwnaeth y Brenin Dareius wledd fawr i'r holl rai oddi tano, i'w holl deulu, i holl arweinwyr Media a Persia,

2. i'r holl benaethiaid, y cadfridogion a'r swyddogion oedd oddi tano yn y cant dau ddeg a saith o daleithiau o'r India i Ethiopia.

3. Ar ôl iddynt fwyta ac yfed a chael eu digon ymadawsant, ac aeth y Brenin Dareius i'w ystafell wely a chysgu, ond yna deffrôdd.

1 Esdras 3