5. Pwy bynnag ohonoch sy'n perthyn i'w genedl ef, bydded ei Arglwydd gydag ef, ac aed i fyny i Jerwsalem yn Jwda i adeiladu tŷ Arglwydd Israel—ef yw'r Arglwydd sy'n preswylio yn Jerwsalem.
6. Y rheini oll sy'n byw mewn gwahanol ardaloedd, bydded i bobl eu hardal hwy eu helpu â rhoddion o aur ac arian,
7. â cheffylau a gwartheg, yn ogystal â phethau eraill a gyflwynwyd trwy adduned i deml yr Arglwydd yn Jerwsalem.”
8. Yna cododd pennau-teuluoedd llwythau Jwda a Benjamin, a'r offeiriaid a'r Lefiaid, a'r holl rai y cynhyrfodd yr Arglwydd eu hysbryd, i fynd i fyny i adeiladu tŷ i'r Arglwydd yn Jerwsalem,
9. a chynorthwyodd eu cymdogion hwy ym mhob peth, ag arian ac aur, ceffylau a gwartheg, a llawer iawn o'r rhoddion a gyflwynwyd trwy adduned gan lawer o bobl a roes eu bryd ar hynny.
10. Dug y Brenin Cyrus allan hefyd lestri sanctaidd yr Arglwydd, a gludodd Nebuchadnesar i ffwrdd o Jerwsalem a'u gosod yn nheml ei eilunod.
11. Wedi i Cyrus brenin Persia eu dwyn allan, fe'u rhoddodd i Mithridates ei drysorydd,
12. a thrwyddo ef fe'u trosglwyddwyd i Sanabassar llywodraethwr Jwdea.
13. Dyma gyfrif ohonynt: mil o gwpanau aur, mil o gwpanau arian, dau ddeg a naw o thuserau arian, tri deg o ffiolau aur, dwy fil pedwar cant a deg o rai arian, a mil o lestri eraill.
14. Trosglwyddwyd felly yr holl lestri aur ac arian, pum mil pedwar cant chwe deg a naw i gyd,
15. ac fe'u cludwyd yn ôl gan Sanabassar gyda'r bobl a ddychwelodd o'r gaethglud ym Mabilon i Jerwsalem.