1 Esdras 2:16-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ond yn amser Artaxerxes brenin Persia, dyma Beslemus, Mithridates, Tabelius, Rawmus, Beeltemus a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill eu cyd-swyddogion, a oedd yn byw yn Samaria ac mewn mannau eraill, yn ysgrifennu ato y llythyr canlynol yn erbyn y rhai oedd yn byw yn Jwda a Jerwsalem: “I'r Brenin Artaxerxes, ein harglwydd,

17. oddi wrth dy weision, Rawmus y cofnodydd, a Samsaius yr ysgrifennydd, a gweddill y barnwyr o'u cyngor yn Celo-Syria a Phenice.

18. Bydded hysbys yn awr i'n harglwydd fod yr Iddewon a ddaeth i fyny oddi wrthych atom ni, ac a aeth i Jerwsalem, yn adeiladu'r ddinas wrthryfelgar a drwg honno, yn atgyweirio ei marchnadoedd a'i muriau, ac yn gosod sylfeini teml.

19. Yn awr os adeiledir y ddinas hon a gorffen ei muriau, byddant nid yn unig yn gwrthod talu teyrnged, ond hefyd yn gwrthryfela yn erbyn brenhinoedd.

20. Oherwydd bod y gwaith ar y deml yn mynd yn ei flaen, dyma ni'n meddwl y byddai'n well i ni beidio ag anwybyddu'r fath sefyllfa,

21. ond ei hysbysu i'n harglwydd y brenin, er mwyn i archwiliad gael ei wneud, os yw'n dda gennyt, yn llyfrau dy hynafiaid.

22. Byddi'n darganfod yn y cofnodion yr hyn a ysgrifennwyd amdanynt, a chei wybod i'r ddinas hon fod yn wrthryfelgar a blino brenhinoedd a dinasoedd,

23. ac i'r Iddewon hwythau fod yn wrthryfelgar a chodi terfysg ynddi ers amser maith. Yn wir, dyna pam y difrodwyd y ddinas hon.

1 Esdras 2