1 Esdras 1:57-58 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. Buont yn weision iddo ac i'w feibion nes i'r Persiaid ddod i deyrnasu, er mwyn cyflawni gair yr Arglwydd drwy enau Jeremeia:

58. “Hyd nes y cyflawna'r wlad ei sabothau, bydd yn cadw saboth holl amser ei hanghyfanedd-dra hyd ddiwedd deng mlynedd a thrigain.”

1 Esdras 1