1 Esdras 1:25-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Ar ôl yr holl weithgarwch hwn o eiddo Joseia, digwyddodd Pharo brenin yr Aifft ddod i ryfela yn Carchemis ar lan Afon Ewffrates, ac aeth Joseia allan i'w gyfarfod.

26. Anfonodd brenin yr Aifft neges ato i ofyn: “Pam yr wyt yn ymyrryd â mi, frenin Jwda?

27. Nid yn dy erbyn di y'm hanfonwyd gan yr Arglwydd Dduw, oherwydd yn ymyl Afon Ewffrates y mae fy mrwydr. Ac yn awr y mae'r Arglwydd gyda mi; ydyw, mae'r Arglwydd gyda mi, yn fy ngyrru ymlaen. Dos yn dy ôl, a phaid â gwrthwynebu'r Arglwydd.”

28. Ond ni throdd Joseia ei gerbyd rhyfel yn ôl, ond ceisiodd ymladd ag ef, gan anwybyddu geiriau'r Arglwydd drwy enau'r proffwyd Jeremeia.

29. Aeth i frwydr yn erbyn Pharo ar wastadedd Megido. Ymosododd tywysogion hwnnw ar y Brenin Joseia,

30. a dywedodd yntau wrth ei weision, “Ewch â mi allan o'r frwydr, oherwydd fe'm clwyfwyd yn arw.” Cludodd ei weision ef yn syth o faes y gad,

31. a'i godi i'w ail gerbyd. Yna, wedi iddo gael ei ddwyn yn ôl i Jerwsalem, bu farw ac fe'i claddwyd ym meddrod ei ragflaenwyr.

32. Bu galaru am Joseia trwy Jwda i gyd, a chanodd Jeremeia'r proffwyd alarnad amdano; a galarodd yr arweinwyr amdano, gyda'u gwragedd, hyd y dydd hwn. Gorchmynnwyd cadw'r arferiad hwn am byth drwy holl genedl Israel.

33. Y mae'r pethau hyn wedi eu hysgrifennu yn llyfr hanesion brenhinoedd Jwda; pob gweithred a gyflawnodd Joseia, ei enw da a'i ddealltwriaeth o gyfraith yr Arglwydd, ei weithredoedd gynt a'r rhai a adroddir yn awr, y mae'r hanes wedi ei gofnodi yn y gyfrol am frenhinoedd Israel a Jwda.

34. Cymerodd rhai o'i gyd-genedl Jechoneia fab Joseia, a'i gyhoeddi'n frenin yn lle ei dad Joseia pan oedd yn dair ar hugain oed.

35. Teyrnasodd yn Jwda a Jerwsalem am dri mis, ac yna symudodd brenin yr Aifft ef o deyrnasu yn Jerwsalem,

36. a gosododd dreth ar y genedl o gan talent o arian ac un dalent o aur.

37. Yna cyhoeddodd brenin yr Aifft ei frawd Joacim yn frenin ar Jwda a Jerwsalem.

38. Carcharodd Joacim y pendefigion, a daliodd ei frawd Sarius a'i ddwyn yn ôl o'r Aifft.

39. Pump ar hugain oed oedd Jehoiacim pan ddaeth yn frenin ar Jwda a Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

40. Daeth Nebuchadnesar brenin Babilon ar ymgyrch yn ei erbyn, ei rwymo mewn cadwyn bres, a'i ddwyn ymaith i Fabilon.

41. Cymerodd Nebuchadnesar hefyd rai o lestri sanctaidd yr Arglwydd, gan eu cludo i ffwrdd a'u gosod yn ei deml ym Mabilon.

42. Y mae hanes Joacim a'i ymarweddiad amhur ac annuwiol wedi ei ysgrifennu yn llyfr croniclau'r brenhinoedd.

43. Daeth ei fab Jehoiachin yn frenin yn ei le. Pan ddaeth i'r orsedd yr oedd yn ddeunaw oed.

44. Bu'n frenin am dri mis a deg diwrnod yn Jerwsalem, a gwnaeth ddrwg yng ngolwg yr Arglwydd.

1 Esdras 1