1 Cronicl 9:33-38 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahân am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos.

34. Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.

35. Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,

36. a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab,

37. Gedor, Ahïo, Sechareia a Micloth;

38. Micloth oedd tad Simeam. Yr oeddent hwy yn byw yn Jerwsalem yn ymyl eu brodyr.

1 Cronicl 9