1 Cronicl 9:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o dŷ ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.

20. Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.

21. Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod.

22. Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn ôl eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd.

23. Yr oeddent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r babell.

1 Cronicl 9