1 Cronicl 9:18-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

18. Hyd at yr amser hwnnw porthorion oeddent yng ngwersylloedd y Lefiaid wrth ymyl porth y brenin i'r dwyrain.

19. Salum fab Core, fab Ebiasaff, fab Cora, a'i frodyr y Corahiaid o dŷ ei dad, oedd yn gyfrifol am y gwasanaeth o gadw trothwy'r babell, fel yr oedd eu tadau yn geidwaid y fynedfa i wersyll yr ARGLWYDD.

20. Phinees fab Eleasar oedd eu harolygwr, ac yr oedd yr ARGLWYDD gydag ef.

21. Sechareia fab Maselmeia oedd ceidwad drws pabell y cyfarfod.

22. Yr oedd cyfanswm y rhai oedd wedi eu dethol i fod yn borthorion wrth y trothwy yn ddau gant a deuddeg, wedi eu cofrestru yn ôl eu pentrefi. Dafydd a Samuel y gweledydd oedd wedi eu gosod yn eu swydd.

23. Yr oeddent hwy a'u meibion yn cadw gwyliadwriaeth wrth byrth tŷ'r ARGLWYDD a thŷ'r babell.

24. Yr oedd y porthorion i fod ar bedair ochr, y dwyrain, y gorllewin, y gogledd a'r de.

25. Yr oedd eu brodyr o'r pentrefi i ddod atynt am wythnos bob hyn a hyn.

26. Am eu bod yn ddibynadwy, Lefiaid oedd y pedwar prif borthor, a hwy oedd yn gofalu am ystafelloedd a thrysorau tŷ Dduw.

27. Yr oeddent yn lletya o gwmpas tŷ Dduw am mai hwy oedd yn gofalu amdano ac yn ei agor bob bore.

28. Yr oedd rhai ohonynt yn gofalu am lestri'r gwasanaeth; yr oeddent yn eu cyfrif wrth eu cario allan ac wrth eu cadw.

29. Yr oedd eraill yn gofalu am ddodrefn a llestri'r cysegr, y peilliaid, y gwin, yr olew, y thus a'r perlysiau.

30. Yr oedd rhai o feibion yr offeiriaid yn gwneud ennaint gyda pheraroglau.

31. Am ei fod yn ddibynadwy, yr oedd Matitheia, un o'r Lefiaid a mab cyntafanedig Salum y Corahiad, yn gweithio wrth y radell.

32. Yr oedd rhai o'u brodyr y Cohathiaid yn gyfrifol am ddarparu'r bara gosod bob Saboth.

33. Dyma'r cantorion, pennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd mewn ystafelloedd ar wahân am eu bod wrth eu gwaith ddydd a nos.

34. Dyma bennau-teuluoedd y Lefiaid, a oedd yn byw yn Jerwsalem, yn ôl eu rhestrau.

35. Yr oedd Jehiel tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,

36. a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Ner, Nadab,

1 Cronicl 9