25. Iffedeia, Penuel, meibion Sasac;
26. Samserai, Sehareia, Athaleia,
27. Jareseia, Eleia, Sichri, meibion Jeroham.
28. Yr oedd y rhain yn byw yn Jerwsalem ac yn bennau-teuluoedd a phenaethiaid yn ôl eu rhestrau.
29. Yr oedd tad Gibeon yn byw yn Gibeon; enw ei wraig oedd Maacha,
30. a'i gyntafanedig Abdon, ac yna Sur, Cis, Baal, Nadab,
31. Gedor, Ahïo, Sacher,
32. a Micloth tad Simea; yr oeddent yn byw gyda'u perthnasau yn Jerwsalem.
33. Ner oedd tad Cis, Cis oedd tad Saul, a Saul oedd tad Jonathan, Malcisua, Abinadab ac Esbaal.
34. Mab Jonathan oedd Meribaal; a Meribaal oedd tad Micha.
35. Meibion Micha: Pithon, Melech, Tarea ac Ahas.
36. Ahas oedd tad Jehoada, Jehoada oedd tad Alemeth, Asmafeth a Simri; Simri oedd tad Mosa;
37. Mosa oedd tad Binea; Raffa oedd ei fab ef, Eleasa ei fab yntau, Asel ei fab yntau.
38. Yr oedd gan Asel chwech o feibion, a'u henwau oedd: Asricam, Bocheru, Ismael, Seareia, Obadeia a Hanan. Hwy oedd meibion Asel.
39. Meibion Esec ei frawd ef oedd Ulam ei gyntafanedig, Jehus yr ail, Eliffelet y trydydd.
40. Yr oedd meibion Ulam yn ddynion abl ac yn saethyddion, ac yr oedd ganddynt gant a hanner o feibion ac wyrion. Yr oedd y rhain i gyd yn feibion Benjamin.