1 Cronicl 8:1-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Benjamin oedd tad Bela ei gyntafanedig, Asbel yr ail, ac Ahara y trydydd,

2. Noha y pedwerydd, a Raffa y pumed.

3. Meibion Bela: Adar, Gera, Abihud,

4. Abisua, Naaman, Ahoa,

5. Gera, Seffuffan a Huram.

6. Dyma feibion Ehud, a oedd yn bennau-teuluoedd preswylwyr Geba, ac a gaethgludwyd i Manahath:

7. Naaman, Aheia a Gera a fu'n gyfrifol am y gaethglud, ac ef oedd tad Ussa ac Ahihud.

8. Ef hefyd oedd tad Saharaim, a anwyd iddo yng ngwlad Moab ar ôl iddo anfon ymaith ei wragedd Husim a Baara.

9. O Hodes ei wraig ganwyd iddo Jobab, Sibia, Mesa, Malcham,

10. Jeus, Sabia, Mirma. Dyma ei feibion ef, pennau-teuluoedd i gyd.

11. O Husim ganwyd iddo Ahitub ac Elpaal.

12. Meibion Elpaal: Eber, Misam, Samed, a adeiladodd Ono, a Lod a'i phentrefi;

13. Bereia a Sema, pennau-teuluoedd preswylwyr Ajalon, a fu'n ymlid trigolion Gath;

14. Ahïo, Sasac, Jeremoth,

15. Sebadeia, Arad, Ader,

16. Michael, Ispa, Joha, meibion Bereia;

17. Sebadeia, Mesulam, Heseci, Heber,

1 Cronicl 8