23. Yna aeth Effraim at ei wraig, a beichiogodd hithau ac esgor ar fab. Fe'i henwodd yn Bereia oherwydd y trybini a fu yn ei dŷ.
24. Ei ferch oedd Seera, ac fe adeiladodd hi Beth-horon Isaf ac Uchaf, a hefyd Ussen-sera.
25. Reffa oedd ei fab ef, Reseff ei fab yntau, Tela ei fab yntau, Tahan ei fab yntau,
26. Ladan ei fab yntau, Ammihud ei fab yntau, Elisama ei fab yntau,
27. Nun ei fab yntau, Josua ei fab yntau.