2. Meibion Tola: Ussi, Reffaia, Jeriel, Jabmai, Jibsam a Semuel, pennau-teuluoedd. Yn nyddiau Dafydd yr oedd dwy fil ar hugain a chwe chant o ddisgynyddion Tola yn ddynion abl yn ôl eu rhestrau.
3. Mab Ussi: Israhïa; meibion Israhïa: Michael, Obadeia, Joel ac Isia. Yr oeddent yn bump i gyd, a phob un ohonynt yn bennaeth.
4. Yn ogystal â hwy, yn ôl rhestrau eu teuluoedd, yr oedd un fil ar bymtheg ar hugain o filwyr yn barod i ryfel, oherwydd yr oedd ganddynt lawer o wragedd a phlant.
5. Yr oedd ganddynt frodyr yn perthyn i holl deuluoedd Issachar, dynion abl, saith a phedwar ugain mil i gyd, wedi eu cofrestru yn ôl eu hachau.
6. Meibion Benjamin: Bela, Becher a Jediael, tri.
7. Meibion Bela: Esbon, Ussi, Ussiel, Jerimoth, ac Iri; pump o bennau-teuluoedd, a dynion abl; yn ôl eu rhestrau yr oeddent yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.
8. Meibion Becher: Semira, Joas, Elieser, Elioenai, Omri, Jerimoth, Abeia, Anathoth ac Alemeth.
9. Yr oedd y rhain oll yn feibion Becher, yn bennau-teuluoedd ac yn ddynion abl; yn ôl rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn ugain mil a dau gant.
10. Mab Jediael: Bilhan; meibion Bilhan: Jeus, Benjamin, Ehud, Cenaana, Sethan, Tarsis ac Ahisahar.
11. Yr oedd y rhain oll yn feibion Jediael, yn bennau-teuluoedd, yn ddynion abl ac yn mynd allan yn fyddin i ryfel; yr oeddent yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.
12. Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, mab Aher.
13. Meibion Nafftali: Jasiel, Guni, Geser a Salum, meibion Bilha.
14. Meibion Manasse: Asriel, plentyn ei ordderchwraig o Syria. Hi hefyd oedd mam Machir tad Gilead;
15. cymerodd Machir wraig i Huppim a Suppim, ac enw ei chwaer oedd Maacha. Enw'r ail fab oedd Salffaad, ac yr oedd ganddo ef ferched.
16. Cafodd Maacha gwraig Machir fab, ac enwodd ef yn Peres a'i frawd yn Seres. Ei feibion ef oedd Ulam a Racem.
17. Mab Ulam: Bedan. Dyma feibion Gilead fab Machir, fab Manasse.
18. Hammolecheth ei chwaer ef oedd mam Isod, Abieser a Mahala.
19. Meibion Semida: Ahïan, Sechem, Lichi ac Aniham.
20. Meibion Effraim: Suthela, Bered ei fab, Tahath ei fab yntau, Elada ei fab yntau, Tahath ei fab yntau,