1 Cronicl 7:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Meibion Issachar: Tola, Pua, Jasub a Simron, pedwar.

2. Meibion Tola: Ussi, Reffaia, Jeriel, Jabmai, Jibsam a Semuel, pennau-teuluoedd. Yn nyddiau Dafydd yr oedd dwy fil ar hugain a chwe chant o ddisgynyddion Tola yn ddynion abl yn ôl eu rhestrau.

3. Mab Ussi: Israhïa; meibion Israhïa: Michael, Obadeia, Joel ac Isia. Yr oeddent yn bump i gyd, a phob un ohonynt yn bennaeth.

4. Yn ogystal â hwy, yn ôl rhestrau eu teuluoedd, yr oedd un fil ar bymtheg ar hugain o filwyr yn barod i ryfel, oherwydd yr oedd ganddynt lawer o wragedd a phlant.

5. Yr oedd ganddynt frodyr yn perthyn i holl deuluoedd Issachar, dynion abl, saith a phedwar ugain mil i gyd, wedi eu cofrestru yn ôl eu hachau.

6. Meibion Benjamin: Bela, Becher a Jediael, tri.

7. Meibion Bela: Esbon, Ussi, Ussiel, Jerimoth, ac Iri; pump o bennau-teuluoedd, a dynion abl; yn ôl eu rhestrau yr oeddent yn ddwy fil ar hugain a phedwar ar ddeg ar hugain.

8. Meibion Becher: Semira, Joas, Elieser, Elioenai, Omri, Jerimoth, Abeia, Anathoth ac Alemeth.

9. Yr oedd y rhain oll yn feibion Becher, yn bennau-teuluoedd ac yn ddynion abl; yn ôl rhestrau eu teuluoedd yr oeddent yn ugain mil a dau gant.

10. Mab Jediael: Bilhan; meibion Bilhan: Jeus, Benjamin, Ehud, Cenaana, Sethan, Tarsis ac Ahisahar.

11. Yr oedd y rhain oll yn feibion Jediael, yn bennau-teuluoedd, yn ddynion abl ac yn mynd allan yn fyddin i ryfel; yr oeddent yn ddwy fil ar bymtheg a deucant.

12. Suppim hefyd, a Huppim, meibion Ir; Husim, mab Aher.

13. Meibion Nafftali: Jasiel, Guni, Geser a Salum, meibion Bilha.

1 Cronicl 7