1 Cronicl 6:57-63 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

57. I feibion Aaron fe roesant y dinasoedd noddfa, sef Hebron, Libna, Jattir, Estemoa,

58. Hilen, Debir, Asan,

59. a Beth-semes, pob un gyda'i chytir;

60. Ac o lwyth Benjamin rhoesant Geba, Alemeth ac Anathoth, pob un gyda'i chytir; cyfanswm o dair dinas ar ddeg yn ôl eu teuluoedd.

61. I weddill teuluoedd meibion Cohath rhoesant trwy goelbren ddeg dinas o hanner llwyth Manasse.

62. I feibion Gersom yn ôl eu teuluoedd rhoesant dair ar ddeg o ddinasoedd o lwythau Issachar, Aser, Nafftali, Manasse yn Basan.

63. I feibion Merari yn ôl eu teuluoedd, o lwythau Reuben, Gad, Sabulon, rhoesant trwy goelbren ddeuddeg o ddinasoedd.

1 Cronicl 6