1 Cronicl 6:49-51 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

49. Ond Aaron a'i feibion oedd yn aberthu ar allor y poethoffrwm ac ar allor yr arogldarth, sef holl waith y cysegr sancteiddiaf, ac yn gwneud cymod dros Israel yn union fel y gorchmynnodd Moses gwas Duw.

50. Dyma feibion Aaron: Eleasar ei fab, Phinees ei fab yntau, Abisua ei fab yntau,

51. Bucci ei fab yntau, Ussi ei fab yntau, Seraheia ei fab yntau,

1 Cronicl 6