5. yr aur ar gyfer popeth aur, a'r arian ar gyfer popeth arian, ac ar gyfer holl waith y rhai celfydd. Pwy sy'n barod i ymgysegru o'i wirfodd i'r ARGLWYDD heddiw?”
6. Yna rhoddodd arweinwyr y teuluoedd, penaethiaid llwythau Israel, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion gwaith y brenin i gyd offrwm gwirfodd.
7. Rhoesant at waith tŷ Dduw bum mil o dalentau aur, deng mil o ddariciau, deng mil o dalentau arian, deunaw mil o dalentau pres a chan mil o dalentau haearn.
8. Yr oedd pob un a feddai emau gwerthfawr yn eu rhoi yn nhrysordy tŷ'r ARGLWYDD a oedd dan ofal Jehiel y Gersoniad.
9. Yr oedd eu haelioni yn achos llawenydd i'r bobl am eu bod yn offrymu i'r ARGLWYDD o'u gwirfodd ac â chalon berffaith.
10. Yr oedd y Brenin Dafydd hefyd yn llawen iawn.Bendithiodd yr ARGLWYDD o flaen yr holl gynulleidfa a dweud, “Bendigedig wyt ti, ARGLWYDD Dduw Israel ein tad, o dragwyddoldeb hyd dragwyddoldeb.
11. I ti, ARGLWYDD, y perthyn mawredd, gallu, gogoniant, ysblander a mawrhydi; oherwydd y mae popeth yn y nefoedd ac ar y ddaear yn eiddo i ti; ti, ARGLWYDD, biau'r deyrnas, ac fe'th ddyrchafwyd yn ben ar y cwbl.
12. Oddi wrthyt ti y daw cyfoeth ac anrhydedd, a thi sy'n arglwyddiaethu ar bopeth; yn dy law di y mae nerth a chadernid, a thi sy'n rhoi cynnydd a chryfder i bob dim.
13. Yn awr, ein Duw, moliannwn di a chlodforwn dy enw gogoneddus.