1 Cronicl 28:12-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Rhoddodd iddo hefyd gynllun o'r cyfan a gafodd trwy'r ysbryd ynglŷn â chynteddau tŷ'r ARGLWYDD, yr holl ystafelloedd o'i gwmpas, trysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.

13. Rhoddodd iddo gyfarwyddyd am ddosbarthiadau'r offeiriaid a'r Lefiaid, yr holl waith ynglŷn â thŷ'r ARGLWYDD, a'r holl lestri ar gyfer y gwasanaeth.

14. Pennodd bwysau'r aur ar gyfer yr offer aur, a'r arian ar gyfer yr offer arian a ddefnyddid yn y gwahanol wasanaethau:

15. pwysau'r aur ar gyfer y canwyllbrennau aur a'u lampau; pwysau'r arian ar gyfer y canwyllbrennau arian, yn ôl pwysau pob canhwyllbren a'i lampau, a'r defnydd a wneid ohonynt;

16. pwysau'r aur ar gyfer un o fyrddau'r bara gosod, ac arian ar gyfer y byrddau arian;

17. aur pur ar gyfer y ffyrch, y costrelau a'r dysglau; pwysau'r aur ar gyfer y cawgiau aur, a phwysau'r arian ar gyfer y cawgiau arian;

18. pwysau'r aur coeth ar gyfer allor yr arogldarth. Rhoddodd iddo hefyd gynllun cerbyd, a'r cerwbiaid aur oedd ag adenydd estynedig yn gorchuddio arch cyfamod yr ARGLWYDD.

19. “Hyn oll,” meddai Dafydd, “a ysgrifennwyd gan law yr ARGLWYDD; fy nghyfrifoldeb i oedd deall sut yr oedd pob cynllun yn gweithio.”

1 Cronicl 28