1 Cronicl 27:3-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Yr oedd ef o feibion Peres ac yn brif swyddog y llu am y mis cyntaf.

4. Dodai yr Ahohiad oedd dros adran yr ail fis, ac yn ei adran ef a Micloth y pennaeth yr oedd pedair mil ar hugain.

5. Benaia fab Jehoiada yr archoffeiriad oedd trydydd swyddog y llu, am y trydydd mis, ac yn ei adran yntau yr oedd pedair mil ar hugain.

6. Y Benaia hwn oedd yr arwr ymhlith y Deg ar Hugain, ac ef oedd yn gofalu amdanynt. Amisabad ei fab oedd dros ei adran ef.

1 Cronicl 27