16. Cafodd Suppim a Hosa borth y gorllewin gyda phorth Salecheth ar y briffordd uchaf.
17. Yr oedd y gwylwyr yn cyfnewid â'i gilydd: chwech bob dydd ym mhorth y dwyrain, pedwar bob dydd ym mhorth y gogledd, a phedwar bob dydd ym mhorth y de, dau yr un ar gyfer yr ystordai,
18. ac ar gyfer y glwysty gorllewinol, pedwar ar y briffordd a dau i'r glwysty ei hun.
19. Y rhain oedd dosbarthiadau'r porthorion o blith meibion Cora a meibion Merari.
20. Eu brodyr y Lefiaid oedd yn gofalu am drysordai tŷ Dduw a thrysordai'r pethau cysegredig.
21. O feibion Ladan, a oedd yn Gersoniaid trwy Ladan ac yn bennau-teuluoedd i Ladan y Gersoniad: Jehieli.
22. O feibion Jehieli: Setham a Joel ei frawd; hwy oedd yn gyfrifol am drysordai tŷ'r ARGLWYDD.
23. O'r Amramiaid, yr Ishariaid, yr Hebroniaid a'r Ussieliaid:
24. Sebuel fab Gersom, fab Moses oedd yn bennaeth ar y trysordai.
25. Ei berthnasau ef trwy Eleasar: Rehabia ei fab, Jeseia ei fab, Joram ei fab, Sichri ei fab a Selomoth ei fab.
26. Y Selomoth hwn a'i frodyr oedd yn gofalu am holl drysordai'r pethau sanctaidd a gysegrodd y Brenin Dafydd, y pennau-teuluoedd, capteiniaid y miloedd a'r cannoedd, a swyddogion y fyddin.
27. Yr oeddent hwy wedi cysegru rhan o'r ysbail rhyfel er mwyn cynnal tŷ'r ARGLWYDD.
28. Yr oedd y cwbl a gysegrodd Samuel y gweledydd, Saul fab Cis, Abner fab Ner a Joab fab Serfia—hynny yw, popeth cysegredig—yng ngofal Selomoth a'i frodyr.
29. O'r Ishariaid: Cenaneia a'i feibion oedd yn gweithredu fel swyddogion a barnwyr ar Israel mewn materion y tu allan i'r deml.