1 Cronicl 26:12-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Trwy'r rhain, y dynion mwyaf blaenllaw, yr oedd gan ddosbarthiadau'r porthorion ddyletswyddau ynglŷn â gwasanaeth yn nhŷ yr ARGLWYDD gyda'u brodyr.

13. Bwriasant goelbrennau ar gyfer y pyrth yn ôl eu teuluoedd, ifanc a hen fel ei gilydd.

14. Syrthiodd y coelbren am borth y dwyrain ar Selemeia. Yna bwriasant goelbrennau dros ei fab Sechareia, a oedd yn gynghorwr deallus, a chafodd yntau borth y gogledd.

15. Cafodd Obed-edom borth y de, a'i feibion yr ystordy.

16. Cafodd Suppim a Hosa borth y gorllewin gyda phorth Salecheth ar y briffordd uchaf.

17. Yr oedd y gwylwyr yn cyfnewid â'i gilydd: chwech bob dydd ym mhorth y dwyrain, pedwar bob dydd ym mhorth y gogledd, a phedwar bob dydd ym mhorth y de, dau yr un ar gyfer yr ystordai,

1 Cronicl 26